Dyfodol Creadigol Rhaglen digwyddiadau

Mae Chris Hawkins yn cyflwyno rhaglen ddyddiol ar BBC Radio 6 Music. Mae Chris yn gyflwynydd rhaglenni dogfen ar Radio 4. Bu i’w gyfres hynod lwyddiannus oedd yn archwilio cerddoriaeth ac iechyd meddwl ddilyn rhaglen fanwl am gerddoriaeth a gwleidyddiaeth. Mae o ymysg nifer o gyflwynwyr a ddewiswyd i gyflwyno Pick of the Week, mawr ei bri, Radio 4. Mae Chris yn DJ’o llwyfannau gwyliau’n rheolaidd hefyd yn ogystal â chyflwyno podlediad Top 5, Sut i DJ’o.
Chris yn ymuno â Graeme Park i roi mewnwelediad amhrisiadwy i chi ar ei daith yrfa ei hun, a rhannu awgrymiadau a chyngor i’ch helpu i fwrw ymlaen â’ch gyrfa chi. Ymunwch â’r sesiwn hon ar Teams. Dyma’r ddolen


Mae Laura Welsman yn Artist, yn Ymchwilydd ac yn Rheolwr Prosiect yn gweithio ar y ffin rhwng celf, gwyddoniaeth a thechnoleg ledled y Diwydiannau Creadigol. Mae’n gweithio ar hyn o bryd gyda Gŵyl Animeiddio Caerdydd, ac yn addysgu Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig ym Mhrifysgol De Cymru.
Bydd cyfweliad Laura yn rhoi mewnwelediad i sut beth yw gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru go iawn. Dyma’r ddolen

Ewch i’r wefan a chyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau